PWYLLGOR TRWYDDEDU
6ED MAI, 2005
PRESENNOL: |
Cynghorydd D.J. Davies (Cadeirydd) |
Cynghorwyr A. Davies, A.P. Cooper, J.D.G. Crossley, D.C. Evans, W.I.B. James, A.W. Jones, W.E. Skinner, T. Theophilus, W. David Thomas, W. Dorrien Thomas, Mrs J. Tremlett a Mrs J.S. Williams. | |
Yn cynrychioli Awdurdod yr Heddlu: yr Heddwas M. Price. | |
Roedd y swyddogion canlynol hefyd yn bresennol:- Mr P. Davies - Pennaeth Diogelu'r Cyhoedd Mr M. Bassett - Rheolwr Dros Dro y Gwasanaethau Masnachol Mr A. Evans - Cyfreithiwr Cynorthwyol Mr J. Power - Swyddog Trwyddedu Mr. K. Thomas - Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd | |
(Siambr y Cyngor, 3 Heol Spilman, Caerfyrddin: 10.00 a.m- 12.02 p.m.) | |
Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorwyr J.D.G Crossley. S.R. James ac E. Williams.
Cynghorydd A.P. Cooper |
Cofnod Rhif 4 - Trwydded Yrru Ddeuol Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat - Mr R.C.P Bunford |
Llys Ynadon |
Cynghorydd W.E. Skinner |
Cofnod Rhif 8 - Clwb Pêl-droed Llanelli |
Aelod o Gyngor Tref Llanelli - sy'n berchen ar gae pêl-droed a Chlwb Cymdeithasol Llanelli sydd ar les i'r ymgeisydd |
Cynghorydd D.J. Davies |
Cofnod Rhif 8 - Clwb Pêl-droed Llanelli |
Aelod |
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan Mr Ian Leslie Parritt am drwydded yrru ddeuol cerbyd hacnai/hurio preifat.
Rhoddodd y Pwyllgor gyfweliad i Mr Parritt mewn perthynas â'i gais am y drwydded. Roedd y cais wedi datgelu euogfarnau perthnasol ac amlinellodd Mr Parritt amgylchiadau'r euogfarnau hynny wrth y Pwyllgor.
Argymhellodd y Rheolwr Dros Dro y Gwasanaethau Masnachol y dylid gwrthod y cais.
Ymneilltuodd y Pwyllgor i ystyried y cais. Ar ôl iddo ailymgynnull, hysbyswyd yr ymgeisydd am benderfyniad y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD peidio â derbyn argymhelliad y swyddog i wrthod y cais am drwydded yrru ddeuol gan fod y Pwyllgor o'r farn fod yr ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded ac i roi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
(NODYN: Gan ei fod wedi datgan budd personol yn y cais hwn yn gynharach ni chymerodd y Cynghorydd A.P. Cooper ran yn y penderfyniad hwn.)
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan Mr Richard Craig Pryce Bunford am drwydded yrru ddeuol cerbyd hacnai/hurio preifat.
Rhoddodd y Pwyllgor gyfweliad i Mr Bunford mewn perthynas â'i gais am y drwydded. Roedd y cais wedi datgelu euogfarnau perthnasol ac amlinellodd Mr Bunford amgylchiadau'r euogfarnau hynny wrth y Pwyllgor.
Argymhellodd y Rheolwr Dros Dro y Gwasanaethau Masnachol y dylid gwrthod y cais.
Ymneilltuodd y Pwyllgor i ystyried y cais. Ar ôl iddo ailymgynnull, hysbyswyd yr ymgeisydd am benderfyniad y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD peidio â derbyn argymhelliad y swyddog i wrthod y cais am drwydded yrru ddeuol gan fod y Pwyllgor o'r farn fod yr ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded ac i roi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Hysbyswyd y Pwyllgor nad oedd Miss Davies yn bresennol.
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais tan y cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i'r ymgeisydd fod yn bresennol ond y dylid ei hysbysu y byddai'r Pwyllgor yn gwneud penderfyniad ynghylch y cais yn ei habsenoldeb pe na byddai'n bresennol.
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan Mr Christopher Michael Bury am drwydded yrru ddeuol cerbyd hacnai/hurio preifat.
Rhoddodd y Pwyllgor gyfweliad i Mr Bury mewn perthynas â'i gais am y drwydded. Roedd y cais wedi datgelu euogfarnau perthnasol ac amlinellodd Mr Bury amgylchiadau'r euogfarnau hynny wrth y Pwyllgor.
Argymhellodd y Rheolwr Dros Dro y Gwasanaethau Masnachol y dylid cymeradwyo'r cais ac i roi rhybudd i'r ymgeisydd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD derbyn argymhelliad y swyddog a chaniatáu'r cais am drwydded yrru ddeuol a bod y cais yn cael ei ganiatáu gyda rhybudd ynghylch ymddygiad yr ymgeisydd yn y dyfodol.
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan Mr Christopher Raymond Jones am drwydded yrru ddeuol cerbyd hacnai/hurio preifat.
Roedd cais Mr Jones wedi datgelu euogfarnau perthnasol ac amlinellodd ei gynrychiolydd cyfreithiol amgylchiadau'r euogfarnau hynny wrth y Pwyllgor.
Argymhellodd y Rheolwr Dros Dro y Gwasanaethau Masnachol y dylid gwrthod y cais.
Ymneilltuodd y Pwyllgor i ystyried y cais. Ar ôl iddo ailymgynnull, hysbyswyd yr ymgeisydd am benderfyniad y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD peidio â derbyn argymhelliad y swyddog i wrthod y cais am drwydded yrru ddeuol gan fod y Pwyllgor o'r farn fod yr ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded ac i roi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
(NODYN:
1. Gan fod y Cynghorwyr D.J Davies ac W.E. Skinner wedi datgan budd personol yn y cais hwn yn gynharach gadawont y cyfarfod tra roedd y Pwyllgor yn ei drafod.
2. Yn absenoldeb y Cadeirydd (datganiad o fudd) a'r Is-gadeirydd (ymddiheuriad am absenoldeb) cadeiriwyd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem hon gan y Cynghorydd T. Theophilus.)
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan Mr Victor Gomersall am adnewyddu trwydded adloniant cyhoeddus mewn perthynas â Chlwb Pêl-droed Llanelli, Parc Stebonheath, Heol Penallt, Llanelli ar gyfer adloniant cyhoeddus a `karaoke' ar yr adegau canlynol:-
Dydd Llun i ddydd Sul - 2.00 p.m. tan 12 hanner nos.
Nifer a ganiateir - Ystafell Ddigwyddiadau 160 o bobl
Lolfa 50 o bobl
Nodwyd yr ymgynghorwyd â'r Cyngor Tref/Cymuned, yr Heddlu a'r Frigâd Dân, ac nad oedd ganddynt unrhyw wrthwynebiad.
Hysbyswyd y Pwyllgor yn ogystal bod y cais wedi cael ei gyflwyno iddo yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14eg Hydref 2004, pryd y penderfynwyd caniatáu trwydded dros dro am dri mis er mwyn gallu monitro'r sŵn a chyflwyno cynllun rheoli. O ganlyniad roedd cynllun rheoli addas wedi dod i law ac nid oedd gan Is-adran Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd yr Adran Gofal Cymdeithasol a Thai unrhyw wrthwynebiad i ganiatáu'r drwydded.
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais gan nad oedd unrhyw wrthwynebiad iddo.
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan Mr D.B.C Smith am drwydded adloniant cyhoeddus mewn perthynas â Neuadd Bentref YMCA Talog, Caerfyrddin ar gyfer cyngherddau, pantomeimiau, dramâu a dawnsio ar yr adegau canlynol:-
Dydd Llun i ddydd Sul - 7.00 p.m. tan 10.30 p.m.
Nifer a ganiateir - Neuadd 200 o bobl
Seddi caeëdig y Neuadd 150 o bobl
Nodwyd yr ymgynghorwyd â'r Cyngor Tref/Cymuned, yr Heddlu a'r Frigâd Dân, ac nad oedd ganddynt unrhyw wrthwynebiad.
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais gan nad oedd unrhyw wrthwynebiad iddo.
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan Diana Darby am drwydded adloniant cyhoeddus mewn perthynas â Neuadd Gymunedol Trallwm, Llwynhendy, Llanelli ar gyfer cerddoriaeth gyhoeddus, dawnsio cyhoeddus ac adloniant byw ar yr adegau canlynol:-
Dydd Llun i ddydd Sul - 9.00 a.m. tan 11.00 p.m.
Nifer a ganiateir - 100 o bobl
Nodwyd yr ymgynghorwyd â'r Cyngor Tref/Cymuned, yr Heddlu a'r Frigâd Dân, ac nad oedd ganddynt unrhyw wrthwynebiad.
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais gan nad oedd unrhyw wrthwynebiad iddo.
Gan gyfeirio at gofnod 13 o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 30ain Mawrth 2005, rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan Mrs Maureen Isaac am drwydded adloniant cyhoeddus ar gyfer Neuadd Les Trimsaran, Trimsaran, Llanelli ar gyfer cerddoriaeth gyhoeddus, dawnsio cyhoeddus ac adloniant byw ar yr adegau canlynol:-
Dydd Llun i ddydd Sadwrn - 11.00 a.m. tan 11.00 p.m.
Dydd Sul - 11.00 a.m tan 10.30 p.m
Nifer a ganiateir - Dawnsio yn y Neuadd 180 o bobl
Seddi caeëdig 230 o bobl
Bwyta 114 o bobl
Nodwyd yr ymgynghorwyd â'r Cyngor Tref/Cymuned, yr Heddlu a'r Frigâd Dân, ac nad oedd ganddynt unrhyw wrthwynebiad.
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais gan nad oedd unrhyw wrthwynebiad iddo.
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan Mr Neil Davies am drwydded adloniant cyhoeddus mewn perthynas â'r Bird in Hand, 70 Heol Morlais, Trimsaran ar gyfer cerddoriaeth gyhoeddus, dawnsio cyhoeddus ac adloniant byw ar yr adegau canlynol:-
Dydd Llun i ddydd Sadwrn - 11.00 a.m. tan 11.00 p.m.
Dydd Sul - 12 hanner dydd tan 10.30 p.m
Nifer a ganiateir - 100 o bobl
Nodwyd yr ymgynghorwyd â'r Cyngor Tref/Cymuned, yr Heddlu a'r Frigâd Dân, ac nad oedd ganddynt unrhyw wrthwynebiad.
Dywedodd Rheolwr Dros Dro y Gwasanaethau Masnachol fod Is-adran Iechyd y Cyhoedd yr Adran Gofal Cymdeithasol a Thai wedi gofyn am i drwydded dros dro gael ei rhoi fel y gellid monitro'r sŵn mewn modd priodol.
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am gyfnod dros dro o dri mis fel y gallai'r Is-adran Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd gynnal arolwg priodol o'r sŵn.
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan Mr H.B Shepardson am adnewyddu ac amrywio trwydded adloniant cyhoeddus mewn perthynas â Neuadd Goffa Porth Tywyn, Stryd Parcyminos, Porth Tywyn ar gyfer cerddoriaeth gyhoeddus, dawnsio ac adloniant byw ar yr adegau canlynol:-
Dydd Llun i ddydd Sul - 9.30 a.m. tan 11.00 p.m.
Nifer a ganiateir - Neuadd - 440 o bobl
Nifer presennol a ganiateir - Neuadd - 400 o bobl
Nodwyd yr ymgynghorwyd â'r Cyngor Tref/Cymuned, yr Heddlu a'r Frigâd Dân, ac nad oedd ganddynt unrhyw wrthwynebiad.
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais gan nad oedd unrhyw wrthwynebiad iddo.
Yn unol â Chofnod 16 o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 30ain Mawrth 2005, rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gynigion i ddynodi strydoedd a glustnodwyd yn Sir Gaerfyrddin yn Strydoedd Trwyddedig a Strydoedd Gwaharddedig o ran dibenion masnachu ar stryd, yn unol â'r darpariaethau yn Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol(Amrywiol Ddarpariaethau) 1982. Arddangoswyd cynlluniau i'r Pwyllgor oedd yn amlygu'r ardaloedd fyddai'n cael eu rheoli ac roeddent hefyd wedi'u rhestru yn Atodiad `A' i'r adroddiad.
Pe byddai'r Pwyllgor yn cadarnhau'r cynigion fe'i hysbyswyd y byddai'n rhaid i'r Cyngor ddilyn y broses statudol ar gyfer dynodi'r cyfryw strydoedd, ac y byddai hynny'n galw am gyhoeddi Hysbysiad yn y wasg leol yn amlinellu bwriad y Cyngor i wneud penderfyniad ffurfiol ac yn gwahodd sylwadau ar y bwriad.
PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R CYNGOR BOD:
Y rheolau presennol o ran masnachu ar stryd yng Nghaerfyrddin a Llanelli yn cael eu hadolygu a'u newid yn unol â'r manylion yn Atodiad `A' i'r adroddiad, a'u bod yn cael eu hymestyn ledled y Sir a'u mabwysiadu gan y Cyngor yn ôl y weithdrefn a bennwyd yn Neddf Llywodraeth Leol (Amrywiol Ddarpariaethau) 1982.
PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi fel cofnod cywir gofnodion y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 30ain Mawrth, 2005.